Nos Galan Gaeaf yn y Ganolfan Dreftadaeth, dydd Mawrth 27 – ddydd Gwener 30 Hydref
Bydd yna lawer o ddigwyddiadau arswydus i bob oedran yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon dros gyfnod Calan Gaeaf yr hanner tymor hwn! Yn y llyfrgell fe fydd straeon arswydus yn cael eu hadrodd am 10.30 a 1.30pm o ddydd Mawrth i ddydd Gwener, a hynny ar gyfer y plant iau. Bydd y brif ystafell arddangos yn cynnal crefftau gwneud a chadw ‘Calan Gaeaf’ o 11am - 1 pm a 1.30pm - 4pm yn ddyddiol, am gost o £1 yr eitem. Bydd Helfa Drysor ffiaidd ar, ac o gwmpas safle’r Ganolfan Dreftadaeth a Mynwent San Pedr.
Ymunwch â ni am ddifyrrwch dychrynllyd!!
Gwnewch ddewis doeth a dod draw i fwynhau creu tylluanod a chrefftau eraill yn ystod hanner tymor rhwng 26 a 30 Hydref , 12pm-4pm. Codir tâl bychan.
Cofiwch hefyd bod mynediad i Bwll Mawr yn rhad ac am ddim a bod y daith danddaearol byd enwog ar gael yn ogystal â’r Orielau Glofaol ac arddangosfeydd yn y Baddonau Pen Pwll.
Mae mis Hydref yn golygu ei bod hi’n amser unwaith eto am y digwyddiad Calan Gaeaf hynod boblogaidd ar y rheilffordd – byddwch yn barod i gael eich brawychu a chofiwch wisgo mewn ffordd fydd yn brawychu eraill! Mae’r trenau’n rhedeg ar y 30ain a’r 31ain o Hydref rhwng 5pm a 9pm.
Yn ystod mis Hydref byddwn yn cymryd archebion ar gyfer ein teithiau arbennig i weld Siôn Corn ym mis Rhagfyr - mae’r digwyddiadau hyn bob amser yn boblogaidd ac yn llenwi’n gyflym felly cliciwch ar ein gwefan Pbrly.co.uk i weld y manylion ac i gadw lle. Bydd anrheg gan Siôn Corn i bob plentyn a sherry a mins peis i’r oedolion.
Gwaith Haearn Blaenafon
Mae Diwrnod Calan Gaeaf Arswydus ar 31 Hydref, yn cynnwys llwybrau, cyffro ac iasau ochr yn ochr â Theithiau Hanes A Llên gwerin Hunllefaidd Gyda’r Nos i oedolion ar y 27ain a 31ain o Hydref yn golygu bod digon yn mynd ymlaen yng Ngwaith Haearn Blaenafon.
Dychwelodd Blaenfest unwaith eto i Flaenafon trwy wibdaith i Dragonffli Pont-y-pŵl ar Ddydd Sadwrn 30 Awst pan gynhaliwyd diwrnod o gerddoriaeth gyda 15 o fandiau dros gyfnod o 2 ddiwrnod a 3 llwyfan, ar gyfan oll i gael hwyl a chodi arian ar gyfer Clwb Ieuenctid Neon. Codwyd dros £ 1,000.
Newyddion
Ymweliad Kennard
Yn ddiweddar, fe wnaeth gwirfoddolwyr Amgueddfa Gymunedol Blaenafon groesawu David Kennard, disgynnydd uniongyrchol tair cenhedlaeth o haearn feistri Blaenafon. Mae Mr Kennard wedi bod yn ddigon caredig i gynnig benthyg arteffactau sy’n gysylltiedig â’i hynafiaid disglair i’w harddangos yn yr amgueddfa pan fydd hi’n ailagor yn Neuadd y Gweithwyr.
Darganfyddwch Eich Hynafiaid!
Os hoffech ddysgu mwy am hanes eich teulu neu ardal Blaenafon, beth am ddod i’r sesiynau rhad ac am ddim sydd yn cael eu cynnal gan wirfoddolwyr Amgueddfa Gymunedol Blaenafon yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd a’r Llyfrgell? Cynhelir sesiynau hanes y teulu ar ddydd Iau rhwng 10am-1pm a chynhelir cymorthfeydd astudiaethau lleol ar foreau Sul. Croeso cynnes i bawb.