Copy
CLLC / WGC 
Having trouble viewing this email? View this email in your browser

Adroddiad Newydd

New Report

Os hoffwch gopi caled o'r adroddiad yma, cysylltwch wgc@caerdydd.ac.uk gydag eich cyfeiriad

Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd wedi cyhoeddi ei dadansoddiad diweddaraf o gyllid cyhoeddus Cymru.

Mae Gwariant a Refeniw Llywodraeth Cymru 2019 yn tynnu ar ffigurau diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gyflwyno dadansoddiad cynhwysfawr dros nifer o flynyddoedd o wariant a refeniw cyhoeddus yng Nghymru, yn ogystal â mantolen gyllidol y genedl yn gyffredinol.

Yn ôl y canlyniadau, ers yr adroddiad cyntaf o'i fath yn 2016, mae'r bwlch rhwng arian trethi a gwariant cyhoeddus wedi gostwng yng Nghymru, o £14.7 biliwn, sy'n 24% o Gynnyrch Domestig Gros (GDP), i'r ffigur presennol, sef £13.7 biliwn, neu 19.4% o GDP. Mae'r ffigur hwn yn cymharu â diffyg o 2% o GDP ar gyfer y DG gyfan.

Mae'r adroddiad yn nodi'r modd y mae sylfaen trethi Cymru'n wahanol i'r DG. Mae 4.7% o boblogaeth y DG yn byw yng Nghymru ond dim ond 3.6% o arian trethi'r DG sy'n dod o Gymru.

Yn ôl ffigurau, yn wahanol i'r DG yn ei chyfanrwydd, lle treth incwm yw prif ffynhonnell arian y llywodraeth, TAW (Treth Ar Werth) sy'n cynhyrchu'r swm uchaf yng Nghymru. 

Yn ôl Dr Ed Gareth Poole, arweinydd academaidd prosiect Dadansoddi Cyllid Cymru:  "Mae adroddiad heddiw yn rhoi darlun cynhwysfawr o gyflwr cyllid cyhoeddus Cymru, a bydd yn werthfawr dros ben i lunwyr polisïau sy'n wynebu cwestiynau pwysig am ein dyfodol cyfansoddiadol yn ogystal ag effaith Brexit.

"Tra bod y canlyniadau hynny'n seiliedig ar amcangyfrifon y Swyddfa Ystadegau Gwladol, nid oes cuddio rhag y ffaith bod ffactorau hanesyddol wedi arwain at economi a sylfaen trethi yng Nghymru sy'n wannach o lawer na'r DG yn ei chyfanrwydd. Yn ôl y ffigurau, mae pob un o wledydd a rhanbarthau'r DG y tu allan i Lundain a'i chymdogion uniongyrchol mewn diffyg ariannol, ac mae gan Gymru'r diffyg mwyaf ond un fesul person ar ôl Gogledd Iwerddon." 

Yn ôl yr adroddiad gan dîm Dadansoddi Cyllid Cymru:

  • Mae'r gostyngiad ym maint y diffyg yn ganlyniad ataliaeth o ran toriadau gwario, yn hytrach na chynnydd mewn cyllid. Fel cyfran o'r economi, mae gwariant wedi gostwng dros 10 pwynt canran ers 2009–10, ac mae gwariant fesul person yn dal i fod 4.2% islaw ei lefel uchaf yn 2011–12.
  • Yn y cyfamser, mae cyllid wedi cynyddu'n unol â'r economi. Tra bod cyllid TAW wedi cynyddu bron i 50% ers 2009–10, mae cyllid treth incwm yn parhau i fod ymhell islaw'r lefel uchaf cyn y dirwasgiad (2007–08), sy'n gyfuniad o dwf araf yn y sylfaen trethi ac effeithiau polisi llywodraeth y DG.
  • Ar sail amcanestyniadau presennol, disgwylir i gyfanswm gwariant cyhoeddus Cymru gyrraedd ei lefel uchaf, sef lefel 2011-12, mewn termau real eto yn 2023–24, tra disgwylir i ddiffyg ariannol Cymru barhau i syrthio fel cyfran o'r economi. Fodd bynnag, o ystyried yr ansicrwydd gwleidyddol, economaidd ac ariannol presennol, gallai llwybr cyllid a gwariant y dyfodol wyro o'r amcanestyniadau hynny.
  • Mewn cyd-destun rhyngwladol, mae gwariant y llywodraeth fesul person ar gyfer Cymru yn cyd-fynd, ar y cyfan, â'r cyfartaledd ar gyfer gwledydd datblygedig, tra bod cyfanswm y cyllid y pen yng Nghymru'n sylweddol is na'r cyfartaledd ar gyfer gwledydd datblygedig.

At hynny, mae ymchwilwyr wedi manylu ynghylch y modd y mae cyllid cyhoeddus Cymru wedi newid dros y blynyddoedd diweddar, ar ôl i gyllid trethi gael ei ddatganoli. Bydd y gyfran o gyfanswm y cyllid sy'n dod o drethi datganoledig a lleol yn cynyddu i 17.5% yn 2019–20, neu oddeutu £5.1 biliwn. Mae hynny'n cymharu â thua 55% o gyfanswm gwariant Llywodraeth Cymru a llywodraethau lleol yng Nghymru.

Yn gynharach y mis hwn, nododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, yn y Cynulliad Cenedlaethol fod "cau'r bwlch ariannol yn uchelgais go iawn ar gyfer unrhyw lywodraeth yng Nghymru," ac mae'r ddadl yn tyfu ynghylch goblygiadau posibl annibyniaeth i Gymru. Er bod yr awduron yn nodi nad yw'r ffigurau yn yr adroddiad yn adlewyrchu sefyllfa ariannol Cymru annibynnol, maent yn dweud bod y canfyddiadau'n cynnig man cychwyn er mwyn cynnal trafodaeth ar ddyfodol ariannol ac economaidd Cymru.

Ychwanegodd Guto Ifan, Cydymaith Ymchwil Dadansoddi Cyllid Cymru: "Tra bod ein bwlch ariannol o'i gymharu â gweddill y DG wedi'i drafod yn eithaf da ers i'n hadroddiadau ynghylch cyllid ariannol Cymru ddechrau, mae llai o drafodaeth wedi bod ynghylch a ellir ei ostwng mewn modd ystyrlon. Gan gadw hyn mewn cof, rydym yn cynnal ymchwil i ystyried sut y gellir mynd i'r afael â'r gwahaniaethau hynny."

Mae canfyddiadau adroddiad heddiw eisoes wedi'u cyflwyno yng nghynhadledd gyntaf Dadansoddi Cyllid Cymru yng Nghaerdydd yn gynharach y mis hwn, a byddant yn cael eu trafod ymhellach yn yr wythnosau sydd i ddod yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanrwst.

Disgwylir y bydd adroddiad pellach yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref ynghylch yr opsiynau posibl ar gyfer gostwng y bwlch ariannol.

To request a hard copy of this report, contact wgc@cardiff.ac.uk with your postal address

Cardiff University’s Wales Governance Centre has published its latest analysis of Wales’ public finances.

Government Expenditure and Revenue Wales (GERW) 2019 draws from recent Office for National Statistics Figures to present a comprehensive multi-year analysis of Wales’ public spending, public sector revenues and the nation’s overall fiscal balance.

The results show that since the first such report in 2016, the gap between tax revenue and public spending has decreased in Wales, from £14.7bn, which is 24% of GDP, to the current figure of £13.7bn, which is 19.4% of GDP. This figure compares with a deficit of 2% of GDP for the UK as a whole.

The report identifies how the tax base in Wales is different to the UK. Wales comprises 4.7% of the UK’s population but only generates 3.6% of UK tax revenues 

Figures also show that unlike the UK as a whole, where Income Tax is the largest source of government revenue, in Wales it is VAT (Value Added Tax) that generates the largest amount. 

Dr Ed Gareth Poole, academic lead of the Wales Fiscal Analysis project, said:  “Today’s report provides a comprehensive picture of the state of Wales’s public finances, which will be invaluable for policymakers faced with important questions about our constitutional future as well as the impact of Brexit.

“While these results are based on ONS estimates, there is no escaping the fact that historic factors have led to the Welsh economy and tax base being far weaker than that of the UK as a whole. The figures show that all of the UK’s nations and regions are in financial deficit outside of London and its immediate neighbours, with Wales having the second highest deficit per person behind Northern Ireland.” 

The report by the Wales Fiscal Analysis team finds:

  • The reduction in the size of the deficit is the result of spending cuts restraint rather than increased revenues. As a share of the economy, total spending has fallen by over 10 percentage points since 2009-10, and spending per person is still 4.2% below its 2011-12 peak.
  • Meanwhile, revenues have only grown in line with the economy. While VAT revenues have grown by almost a half since 2009-10, income tax revenues remain well below their pre-recession (2007-08) peak, a combination of slow growth in the tax base and the effects of UK government policy.
  • On current projections, total public spending for Wales is set to reach its 2011-12 peak again in real terms by 2023-24, while Wales’ fiscal deficit is projected to continue to fall as a share of the economy. However, given the current political, economic and fiscal uncertainty, the future path of revenues and spending may well diverge from these projections.
  • In an international context, government spending per person for Wales is broadly in line with the average for developed countries, while total revenue per head in Wales is significantly lower than the average for developed countries.

Researchers have also detailed how Wales’ public finances have changed over recent years with the devolution of tax revenues. The share of total revenue accounted for by devolved and local taxes will grow to 17.5% in 2019-20, or approximately £5.1 billion. This compares with the approximately 55% of total spending made by Welsh and local governments in Wales.

Earlier this month, the First Minister Mark Drakeford in the National Assembly noted that, “closing the fiscal gap is a proper ambition for any Welsh Government”,  and there is growing debate surrounding the potential implications of Welsh independence. While the authors note that the figures contained in the report are not a reflection of the finances of an independent Wales, they say the findings provide a starting point for a discussion on Wales’ fiscal and economic future.

Guto Ifan, Research Associate at Wales Fiscal Analysis added: “While our fiscal gap in comparison to the rest of the UK has been quite well discussed since our reports into Wales’ public finances began, there has been less debate about whether it could be reduced in any meaningful way. With this in mind we are carrying out research to investigate how these disparities could be addressed.”

The findings of today’s report have already been presented at the inaugural Wales Fiscal Analysis conference in Cardiff earlier this month and will be discussed further in the coming weeks at the National Eisteddfod in Llanrwst. 

A further report presenting potential options for reducing the fiscal gap is set to be published in the autumn.

Rydych wedi cael eich anfon e-bost hwn wrth i chi wedi dangos diddordeb yn y Ganolfan Llywodraethu Cymru yn y gorffennol.
Os hoffech dynnu eich enw o'r rhestr bostio, anfonwch e-bost
WGC@cardiff.ac.uk

 
 
You have been sent this email as you have indicated an interest in the Wales Governance Centre
in the past.
If you would like to un-subscribe from this mailing list, please email 
WGC@cardiff.ac.uk






This email was sent to <<Cyfeiriad Ebost / Email Address>>
why did I get this?    unsubscribe from this list    update subscription preferences
Canolfan Llywodraethiant Cymru / Wales Governance Centre · Pierhead, Pierhead Street, Cardiff, United Kingdom · Cardiff, CF99 1NA · United Kingdom

Email Marketing Powered by Mailchimp